Gweddiau
Beth bynnag oedd ein taith ffydd, waeth pa mor betrus neu ansicr, neu efallai bod y daith yn dal i gael ei harchwilio, yna, mewn rhyw ffordd bydd gweddi’n rhan ohono. Mae gweddi i bawb ac mae pawb yn gallu gweddïo.
Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r ddolen isod i gael awgrymiadau ar sut i weddïo ac i ddod o hyd i rai gweddïau ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd neu adegau o’r flwyddyn.
Os ydych yn ymweld â Llandudno, mae croeso i chi ddod i mewn i’n heglwysi, i eistedd yn dawel gyda Duw neu i ymuno â ni mewn addoliad. Efallai y bydd ein hadnoddau gweddi yn ddefnyddiol, fel y "Pwll Cerrig" neu ganhwyllau yn y Drindod Sanctaidd neu'r "Gweddïau Côn Pîn" yn Eglwys Sant Tudno.
Gweddiau trwy'r dydd
Daw'r rhain o'r llyfr "Gweddiau'r Dydd" (2021) gan ein Swyddog Ysbrydolrwydd a Gweinidogaeth yr Esgobaeth, y Parchg Janet Fletcher.
Y Bore
Dduw'r wawr newydd a chodiad haul, taena oleuni dy gariad ar y ddaear. Cynhesa'r tir â'th dangnefedd a'th lawenydd wrth i'r diwrnod hwn raddol ymffurfio. Bendithia â chyffyrddiad tyner dy Ysbryd chwareus dy fyd wrth ddihuno. Amen.
Ganol Dydd
Dduw'r greadigaeth, gan gofio'r angen i rannu adnoddau tir a môr, a'r anghydraddoldeb a'r anghyfiawnder sy'n gadael i gymaint newynu, diolchaf i ti am fwyd a gynaeafwyd o'r ddaear ac sydd nawr i mi'n faeth ac yn adfywiad. Diolch a fo i Dduw. Amen.
Gyda'r Hwyr
Dduw'r hwyrhau a machlud haul; gwylia dros ymdawelu'r dydd heddiw, ac ymlonyddu craidd fy mod. Gyda diolchgarwch, cyflwynaf y diwrnod a dreuliais i ti, a chan gydnabod popeth y gallwn fod wedi ei wneud yn wahanol, ceisiaf dy dangnefedd ar gyfer y nos sydd i ddod. Wrth i'r golau bylu bendithia dy fyd â chynhaliaeth dy gariad a'th dangnefedd. Amen.
Y Nos
Dduw oriau'r nos a llewyrch y lleuad a phefrio'r sêr, taena dy orffwys tawel dros bawb sy'n ceisio eu hatgyfnerthu mewn cwsg a dros bawb sy'n ymdrechu cysgu'n dawel heno. Yn nhreigl oriau'r nos tyrd ag iachad ac adfywiad 'rôl teithio'r diwrnod a fu. Amen.
Prayers
Whatever our journey into faith has been like, however hesitant or uncertain, or perhaps a journey that is still being explored, then in some way prayer will be a part of it. Prayer is for everyone, and everyone can pray.
You might like to use the link below for suggestions of how to pray and to find some prayers for different situations or times of the year.
If you are visiting Llandudno, we welcome to come into our churches, to sit quietly with God or to join us in worship. You may find our prayer resources helpful, such as the "Pebble Pool" or candles at Holy Trinity or the "Pine Cone Prayers" at St. Tudno's.
Prayers through the day
These are taken from the book "Prayers for the Day" (2021) by our Diocesan Diocesan Spirituality and Ministry Officer, Revd Janet Fletcher.
Morning
God of the new dawn and of the rising sun, bring to the earth the light of your love. Warm the ground with your peace and joy in the slow unfolding of this new day. Grace with the gentle provocative Spirit's touch, your awakening world. Amen.
Midday
God of all creation, remembering the need to share the resources of land and sea, and the inequality and injustice which leaves so many hungry, I thank you for food grown from the earth and taken now for my nourishment and renewal. Thanks be to God. Amen.
Evening
God of the evening time and of the going down of the sun; watch over the quietening of this day, and the stilling of my inner being. With thanksgiving I bring the day I have lived to you, with the acknowledgement of all I could have done differently, I seek your peace for the night to come. As the light fades, grace your world with your sustaining love and peace. Amen.
Night
God of the night-time and of the illuminating moon and stars. Bring your quiet rest upon all who seek the refreshment of sleep and upon all who struggle for quiet sleep this night. As the night hours pass, bring healing and renewal for the day just lived. Amen.