minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Bywyd gwyllt ym Mynwent Eglwys Sant Tudno

Cacwn yn bwydo ar friallu Mair ym Mynwent Eglwys Sant Tudno | Bumblebee feeding on cowslip in St Tudno's Churchyard

Ceisiwn gynnal a chadw’r fynwent er mwyn caniatáu i flodau gwyllt a bywyd gwyllt ffynnu, tra’n atal y beddau rhag tyfu’n wyllt. Er nad yw bob amser yn hawdd cyflawni’r ddau amcan, rydym wedi ein calonogi gan faint o fywyd gwyllt sy’n ymddangos yn y fynwent. Mae'r glaswellt yn cael ei dorri ddwywaith y flwyddyn ac mae cymaint o'r glaswellt sydd wedi'i dorri ag sy'n bosibl yn cael ei gribinio a'i dynnu, er mwyn annog tyfiant planhigion eraill. Mae llwybrau a'r man eistedd yn derbyn toriadau ychwanegol yn ôl yr angen.

Mae arolygon o blanhigion wedi cofnodi mwy na 70 o rywogaethau (heb gynnwys bryoffytau, ffyngau neu gennau). Cynhaliwyd arolygon o gennau gan Gymdeithas Cennau Prydain yn 1992 ac yn 2015 fel rhan o Arolwg Mynwentydd ledled y wlad. Mae’r arolygon hyn wedi dangos mwy na 100 o rywogaethau ym mynwent eglwys Sant Tudno.

Mae'r blodau'n denu pryfed sy'n peillio ac mae Cyfeillion Eglwys Sant Tudno wedi darparu llochesi i annog infertebratau ymhellach. Mae coed pinwydd du aeddfed yn cynnig lloches i adar sy’n ymweld, tra bod yr anifeiliaid mwy a welir yn y fynwent yn cynnwys cwningod, carlymod a geifr enwog y Gogarth!

Ers 2018 mae Cyfeillion Eglwys Sant Tudno wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd am ansawdd y fynwent - y fynwent gyntaf yn yr Esgobaeth i ddal y wobr hon. Mae gan y fynwent wobr Eich Cymdogaeth Chi hefyd ac mae'n rhan o lwybr beirniadu Llandudno yn ei Blodau ar gyfer cystadlaethau Cymru yn ei Blodau.

Cymraeg

Wildlife in St. Tudno's Churchyard

Hoverfly feeding on thistle in St Tudno's Churchyard |  Pryfed hofran yn bwydo ar ysgallen ym Mynwent Eglwys Sant Tudno
Hoverfly feeding on thistle in St Tudno's Churchyard | Pryfed hofran yn bwydo ar ysgallen ym Mynwent Eglwys Sant Tudno

We try to maintain the churchyard to allow wildflowers and wildlife to flourish, while preventing the graves from becoming overgrown. Although it is not always easy to achieve both objectives, we are encouraged by the amount of wildlife appearing in the churchyard. The grass is cut twice a year and as much of the cut grass as possible is raked and removed, to encourage the growth of other plants. Paths and the seating area receive additional cuts as required. 

Surveys of plants in have recorded more than 70 species (not including bryophytes, fungi or lichens). Surveys of lichens have been performed by the British Lichen Society in 1992 and in 2015 as part of a nationwide Churchyard Survey. These surveys have shown more than 100 species in St. Tudno’s churchyard.

The flowers attract pollinating insects and the Friends of St. Tudno's Church have provided shelters to further encourage invertebrates. Mature black pine trees offer shelter to visiting birds, while larger animals seen in the churchyard include rabbits, stoats and the famous Great Orme goats!  

Since 2018 the Friends of St. Tudno’s Church have had a Green Flag Community Award for the quality of the churchyard - the first churchyard in the Diocese to hold this award. The churchyard also holds an It's Your Neighbourhood award and is part of Llandudno in Bloom's judging route for Wales in Bloom competitions.